Cymuned gymysg, gyfun, gymhwysol a dwyieithog yw Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth o dua 1500 o ddisgyblion, yn darparu ar gyfer pob gallu rhwng 11 ac 19 oed. Ffurfiwyd yr ysgol ym mis Medi 2005 wrth i Ysgol y Frenhines Elisabeth Cambria ac Ysgol y Frenhines Elisabeth Maridunum ddod at ei gilydd. Gellid olrhain ein gwreiddiau yn ôl i dua 1576 gyda sefydlu Ysgol Ramadeg y Frenhines Elisabeth yn Stryd y Priordy yn nhref Caerfyrddin, a sefydlwyd er budd masnachwyr y dref. Gyda hyn mewn golwg, fel ysgol newydd , yr ydym yn cofio ein bod yn adeiladu ar 430 o flynyddoedd o lwyddiant academig ac allgyrsiol.
Rydym yn ymfalchïo yn llwyddiannau pob aelod o gymuned ein hysgol, a rhoddir blaenoriaeth ar safon uchel o waith, ymddygiad, agwedd ac ymddangosiad.
LLEOLIAD
Lleolir yr ysgol yng nghanol harddwch Dyffryn Tywi. Mae dalgylch yr ysgol gan fwyaf yn wledig, yn cynnwys darn helaeth o Sir Gaerfyrddin, gan gynnwys y dref farchnad a sirol. Ar hyn o bryd mae gennym ddwy ar bymtheg o ysgolion cynradd fel partneriaid, lle ceir cysylltiadau effeithiol iawn ar lefel academig, bugeiliol a chymdeithasol, ac yn flynyddol derbyniwn ddisgyblion o dros 25 o ysgolion cynradd.
ADEILADAU
Yn ddiweddar, ailwampiwyd yr holl gampws trwy wariant gan y cyngor sir o sawl miliwn ar gyfer:
Lle i 1600 o ddisgyblion. Heblaw am y cyfleusterau addysgol diweddaraf sy’n galluogi dulliau dysgu hyblyg, perthyn i’r adeiladau hefyd y dylunio diweddaraf o safbwynt yr amgylchedd a chynaladwyedd, gan gynnwys cynaeafu dŵr glaw, paneli solar, celloedd solar ar gyfer creu trydan, boeler biomas a safleoedd astudio’r amgylchedd;
Canolfan rhagoriaeth ar gyfer anghenion arbennig, sy’n ein galluogi i gwrdd ag anghenion unigolion o anghenion aml a dwys, nam synhwyraidd, awtistiaeth ac anghenion penodol llythrennedd a rhifedd. Fel ysgol prif ffrwd, yr ydym yn unigryw yn y rhanbarth i allu cynnig y fath gyfleusterau, gan alluogi mynediad lleol i ymyriad arbenigol;
Canolfan y celfyddydau perfformio sy’n galluogi datblygiad pellach o dalentau ein disgyblion mewn cerddoriaeth, dawns a drama;
Canolfan y chweched dosbarth, yn cynnwys ystafell gyffredin fawr, safleoedd astudio unigol ac ystafelloedd dosbarth;
Cyfleusterau hamdden a ehangwyd ac a ailwampiwyd i gynnwys pwll nofio o safon i gynnal cystadlaethau a llawer adnodd gwych arall;
Cyfleusterau chwaraeon allanol newydd sbon, yn cynnwys cyrtiau tennis newydd, maes chwarae ar gyfer pob tywydd, trac rhedeg a chaeau chwarae.
Mae’r adeiladau newydd, a agorwyd yn swyddogol gan Ei Mawrhydi y Dywysoges Frenhinol ar 22 ain Ionawr 2010, yn rhoi i ni a chenedlaethau i ddod llawer mwy o gyfleoedd i dyfu a datblygu wrth i ni barhau i fuddsoddi yng nghyfalaf addysgol ein cenedl.
EIN GWELEDIGAETH
Ein gweledigaeth ar gyfer ein hysgol yw cymuned alluog, ymatebol, gynhwysol, ddwyieithog a chefnogol gyda’r safonau uchaf posibl ar gyfer dysgu ac addysgu.
EIN NOD
Ein nod yw sicrhau llwyddiant i bob plentyn.
Sicrheir hyn trwy:
sicrhau hawl pob disgybl i addysg sy’n cofleidio goleuedigaeth, tosturi a gweithgarwch;
sicrhau bod lle gan ddealltwriaeth foesol, hunaniaeth, cyfrifoldeb, doethineb a gweledigaeth i dyfu;
bod yn uchelgeisiol yn ein gwaith ac yn meddu ar hyder yng ngallu pob plentyn i lwyddo.
WRTH GLOI
Er bod yna flynyddoedd lawer o newid, o dyfiant ac adleoli, ceisiodd ein hysgol fod yn driw i’w gwreiddiau. Fel yr ysgrifennodd un o’r rhai a’m blaenorodd, Miss Margaret Wooloff , yn 1971 “Hoffwn feddwl nad ydym yn siomi disgwyliadau ein sylfaenwyr, a’u bod hwy wrth ein hymyl mewn ysbryd wrth i ni symud ymlaen ”.
Felly, ers 2005, adeiladwyd gennym ar lwyddiannau academig gwych yr ysgolion gynt, gan ennill y canlyniadau gorau yn TGAU a Safon A o gymharu ag unrhyw ysgol yn y rhanbarth. Ym mis Mawrth 2008, cawsom arolwg llawn, proses a wnaeth gydnabod i ni sefydlu “ysgol ag ethos gefnogol ac eto yn heriol gyda disgwyliadau uchel o lwyddiant”, ac ysgol lle mae yna is “ethos o harmoni”.
“Ymlaen Gyda’n Gilydd” yw arwyddair ein hysgol; a golyga hyn bod pob aelod o’n hysgol yn symud ymlaen gyda’n gilydd er mwyn darparu rhagoriaeth addysgol ac i sicrhau llwyddiant i bob plentyn. Mae’n cyhoeddi’r gwirionedd y byddwn yn parhau i symud ymlaen gyda’n gilydd, i baratoi pobl ifanc ar gyfer datblygiadau ein byd sy’n newid mor gyflym.